Roedd y safle gwreiddiol yn disgrifio Dreigiau Ifanc Cymru fel menter gan Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles, Tywysog Cymru ar y pryd, a oedd hefyd yn Noddwr y fenter.
Mae Dreigiau Ifanc Cymru yn bartneriaeth sy’n gweithio gyda, yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r holl grwpiau ieuenctid mewn lifrai yng Nghymru.
Ein nod yw cynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau strwythuredig sy’n rhoi budd i gymunedau lleol ac sy’n cynnwys cydweithio rhwng sefydliadau ieuenctid mewn lifrai.
Mae’r sefydliadau’n cynnwys Sgowtiaid Cymru, Girlguiding, St John Cymru Wales, Cadetiaid y Fyddin, Cadetiaid y Môr, Cadetiaid yr Awyr, Cadetiaid yr Heddlu, Cadetiaid Tân, Brigâd y Bechgyn, Gweinidogaethau Brigâd y Merched a Brigâd Bechgyn a Merched yr Eglwys.
Mae Llywodraeth Cymru, gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol, yr Adran Addysg a sefydliadau’r trydydd sector hefyd wedi bod yn rhan o’r gwaith.