Dros 20 oed? Yn chwilio am her newydd? Hoffech ddatblygu sgiliau, rhinweddau arweinyddiaeth a chymwysterau?
Daw staff gwirfoddol o bob math o gefndiroedd a diddordebau. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc, hedfan neu gleidio yn ddefnyddiol, ond nid yw’n hanfodol gan fod hyfforddiant a chefnogaeth ar gael.
Mae amynedd, aeddfedrwydd, cyfrifoldeb a dealltwriaeth o bobl ifanc yn rhinweddau pwysig.
Hyfforddwr Sifil
Dyma’r rôl wirfoddoli fwyaf cyffredin. Mae’n rôl amrywiol sy’n caniatáu i bobl ddefnyddio eu sgiliau lle maent yn gweddu orau, heb fod angen cymwysterau ffurfiol ymlaen llaw.
Gwnewch wahaniaeth
Mae gwirfoddolwyr yn helpu cadetiaid i wireddu eu potensial, ac ar yr un pryd gallant ddatblygu eu harweinyddiaeth eu hunain a chael cymwysterau mewn meysydd fel arweinyddiaeth fynydd, cymorth cyntaf a chymwysterau galwedigaethol.
Gwefan: Air Cadets
